Croeso i wefan HEPCW

Mae caffael yn y sector cyhoeddus yn bwysicach nag erioed, wrth i nifer o fentrau gan y llywodraeth ganolog a'r llywodraeth ddatganoledig ddeillio o Adroddiad Gershon. O'i gymharu â rhai rhannau o'r sector cyhoeddus, mae Consortiwm Pwrcasu Addysg Uwch Cymru (HEPCW) yn weithgar iawn, ac mae hefyd yn sicrhau gwerth eithriadol am arian ar gyfer ei aelodau, gan ddarparu isafswm adenillion o 48:1 ar y ffïoedd aelodaeth.
Mae'r gwerth hwn yn ganlyniad i ymrwymiad pwrpasol ei aelodau o adnoddau, wrth iddynt gynrychioli HEPCW ar wahanol weithgorau a grwpiau cytundebu ar lefel Genedlaethol, Ryngranbarthol, Ranbarthol a Chymru gyfan.
Cenhadaeth HEPCW yw:
Adnabod a monitro meysydd gwariant ariannol sy’n bwysig a/neu o sylwedd strategol, a chreu sail ar gyfer sicrhau bod contractau wedi eu sefydlu i gael y gwerth gorau am arian i holl aelodau'r Consortiwm.
Mae HEPCW wedi adnewyddu ei strategaeth, ac mae'n ceisio hyrwyddo a chefnogi ei aelodau drwy ddirprwyo cynrychiolwyr proffesiynol i gymryd rhan mewn mentrau strategol sy'n gweddu orau i'r Consortiwm, rhannu'r wybodaeth a'r arfer gorau sy'n dod i'r amlwg, a thrwy hynny gynyddu ei synergedd.
Mae HEPCW'n rheoli ei benderfyniadau busnes drwy'r Prif Bwyllgor a'r Grŵp Rheoli Strategaeth. Cliciwch yma i weld ein Cyfansoddiad. Mae golwg mwy gweithredol ar HEPCW i'w gael yn yr adran Amdanom Ni.
Rwy'n gobeithio y bydd eich gwe-lywio drwy ein gwefan yn fuddiol i chi ac i'r Consortiwm, ac edrychaf ymlaen at unrhyw sylwadau neu adborth y byddwch yn dymuno'u rhannu â ni.
Martin Warren
Cadeirydd